YSTYRIAETHAU

Mae Qair yn ystyried ymarferoldeb datblygiadau yn ofalus ac yn cynnal asesiad manwl o bob safle. Mae hyn yn cynnwys gwerthuso’r safle ar gyfer dynodiadau amgylcheddol a chynllunio, agosrwydd at ffyrdd a mannau preswyl, sgrinio presennol, topograffi, a’r agosrwydd at y pwynt cysylltu â’r rhwydwaith pŵer.

Mae’r lleoliad hwn yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer datblygiad solar a storio egni batri, a bydd yn cyflwyno cyfleoedd i wella’r safle a gweithredu mesurau i liniaru effeithiau amgylcheddol negyddol posibl. Fel rhan o'r broses gynllunio, bydd Qair yn paratoi adroddiadau technegol manwl i asesu’r cynnig yn llawn.

TIRWEDD A MWYNHAD GWELEDOL

Mae asesiad llawn o Dirwedd ac Effaith Weledol yn cael ei baratoi i'r datblygiad. Bydd yr asesiad yn nodi golygfeydd arwyddocaol, yn ogystal â meysydd gwella sy’n cynnwys meysydd am blannu coed, gwrychoedd a glaswellt dôl. Bydd hyn yn helpu i ddarparu sgrinio i’r safle, gan integreiddio’r datblygiad yn well i’r dirwedd leol.
Mae paneli solar yn cael eu gosod yn isel i’r ddaear, felly maent yn llai i’w gweldwyd dros bellter na ffermydd gwynt neu orsafoedd pŵer niwclear. Mae’r elfen storio egni o gynlluniau cyd-leoli yn meddiannu ardaloedd bach iawn o dir ac yn cael eu lleoli i leihau unrhyw effaith negyddol weledol.

TRAFNIDIAETH A MYNEDIAD

Bydd Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu yn ystyried llwybrau traffig a lefelau traffig i leihau effeithiau ar y rhwydwaith trafnidiaeth leol yn ystod adeiladu a gweithredu. Bydd hyn yn cael ei gytuno gyda’r Awdurdod Priffyrdd lleol, ymgynghorwyr statudol, ac adeiladwyr. Fel arfer, mae’r cyfnod adeiladu yn para tua 12 mis. Bydd y cynllun yn liniaru unrhyw aflonyddwch ar y rhwydwaith ffyrdd ac arfaethu at ddiogelwch y ffyrdd.

LEFELAU SŴN

Mae arolygon sŵn sylfaenol wedi cael ei gynnal i nodi unrhyw ffynonellau posibl o sŵn. Caiff mesurau lliniaru priodol eu hychwanegu i’r dyluniad fel bod gweithrediad y safle yn anenbythol ar yr ardal amgylchynol.

ECOLEG

Rydym yn cynnal asesiadau ecolegol llawn. Byddwn yn ymgorffori gwelliannau ecolegol fel blodau gwyllt a phlannu sgrin ychwanegol i mewn i’r safle, yn ogystal â chadw coed a gwrychoedd presennol.

LLWYBR TROED A HAWLIAU TRAMWY CYHOEDDUS

Bydd y datblygiad yn cael ei gynllunio fel ei fod yn cynnwys unrhyw lwybrau troed neu hawliau tramwy sydd yn bresennol yn y safle. Ni fydd y datblygiad arfaethedig yn newid cwrs unrhyw lwybrau cyhoeddus.

PERYGL LLIFOGYDD

Mae gosod paneli solar yn cael effaith fân ar lif dŵr arwyneb, yn enwedig lle mae’r glaswellt a’r llystyfiant yn cael eu ehangu o dan ac o gwmpas y paneli. Mae’r fframiau’n cael eu mewnosod yn uniongyrchol i’r pridd, felly nid oes angen gosod sylfeini concrit. Bydd Asesiad Risg Llifogydd a Strategaeth Draenio yn cael eu paratoi, a fydd mesurau rhagofalus yn cael eu ychwanegu i’r cynllun fel mae angen.

TREFTADAETH AC ARCHAEOLEG

Bydd asesiad treftadaeth ac archaeoleg yn cael ei gwblhau i werthuso’r effaith ar asedau treftadaeth fel adeiladau rhestredig, henebion cofrestredig, meysydd brwydr ac unrhyw weddillion posibl o ddiddordeb archaeolegol.
Bydd cynigion lliniaru priodol yn cael eu cyflwyno gyda’r cais cynllunio. Fel arfer mae effaith datblygiad solar ar y tir yn fach, achos mae’r paneli yn cael eu gosod a stanciau yn y ddaear yn hytrach na sylfeini concrit. Mae’r effaith archaeolegol felly fel arfer yn llai nag y byddai ar gyfer mathau eraill o ddatblygiad fel tai.

DISGLEIRIAU A GOLAU LLACHAR

Mae paneli solar wedi’u dylunio i amsugno golau. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd risg o ddisgleiriau a golau llachar o’r paneli ar adegau cyfyngedig. Mae hyn yn cael ei asesu. Fel arfer, mae gwrychoedd ffîn yn lliniaur’r risg.
I roi cyd-destun, byddai unrhyw ddisgleiriau a golau llachar yn llai na’r hyn sy’n adlewyrchu oddi ar ddŵr. Mae yna nifer o feysydd awyr heb ffurfwyd solar yn gyfagos i lwybrau glanio. Er mwyn delio’r mater hwn, bydd asesiad disgleiriau a golau llachar yn nodi unrhyw effeithiau ar eiddo, ffyrdd, rheilffyrdd ac iechydfanaeth.

CLODDIO GLO

Mae Asesiad Risg Cloddio Glo yn cael ei gynnal. Mae’n ystyried y risg o gloddio glo ar y safle cyfan ac yn cynnig pa ymchwiliadau pellach allai fod yn angenrheidiol cyn adeiladu, os ceir caniatâd cynllunio.

DATGANIAD CYNLLUNIO,
DYLUNIO A MYNEDIAD
Mae’r asesiad hwn yn cydgrynhoi canfyddiadau ac argymhellion yr asesiadau eraill ac yn ystyried mewn perthynas â pholisïau cynllunio cenedlaethol a lleol.