MANTEISION

Fel gyda phob prosiect egni adnewyddadwy, bydd y fferm solar yn cyfrannu at y broses o drosglwyddo cynhyrchu egni o ffynonellau tanwydd ffosil i ffynonellau cynaliadwy. O ystyried yr angen am ddiogelwch egni yn y rhanbarth, mae'r cynnig yn ffynhonnell bwysig o cynhyrchu pwer newydd, a chaiff ei wella ymhellach gan elfen batri'r prosiect, sy'n gallu cyflenwi'r egni hwn yn fwy cyson ac yn ôl yr angen.

AMGYLCHEDDOL

  • Arbed tua 16,727 tunnell o CO₂ y flwyddyn.
  • Cynhyrchu digon o bŵer i ddiwallu anghenion tua 12,548 o gartrefi yn y Deyrnas Unedig y flwyddyn.
  • Lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, gan helpu'r trawsnewid tuag at gynhyrchu trydan glanach.
  • Lleihau dibyniaeth ar gynhyrchu nwy i ddiwallu brigiau mewn anhengion egni.
  • Chwarae rhan pwysig yn yr ymdrech i gyrraedd targed newid hinsawdd Llywodraeth Cymru o leihau allyriadau carbon o 63% erbyn 2030 o gymharu â lefelau 1990, gyda'r nod o gyrraedd sero net erbyn 2050.

BIOAMRYWIAETH

  • Bydd White House Farm Solar and Storage Facility yn darparu gynnydd net bioamrywiaeth sylweddol. Bydd y bioamrywiaeth yn cael ei rheoli gan Gynllun Rheoli Bioamrywiaeth cymeradwy.
  • Mae ardaloedd penodol wedi'u nodi o fewn y datblygiad i ddarparu mesurau gwella bioamrywiaeth penodol.

ECOLEG

  • Mae arolygon ecolegol manwl yn cael eu cynnal yn unol â'r arferion gorau yn y diwydiant a'r ddeddfwriaeth. Bydd hyn yn cynnwys arolygon o lystyfiant a coed, ac asesiadau o addasrwydd y safle ar gyfer rhywogaethau a warchodir fel ystlumod, adar, amffibiaid a badgeriaid.
  • Bydd canlyniadau'r arolygon yn cael eu hymgorffori'n llawn i fewn i'r cynigion dylunio gyda mesurau lliniaru priodol yn cael eu cynnwys i wella gwerth ecolegol y safle.

DIOGELWCH EGNI A MANTEISION ECONOMAIDD

  • Cynyddu amrywiaeth gweithgaredd economaidd yn y rhanbarth.
  • Hwyluso cyfleoedd o fewn marchnadoedd swyddi lleol, i cefnogi cadw cyflogaeth o fewn y gymuned leol fel rhan o adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw'r safle.
  • Helpu ymdrin â'r bwlch egni sy'n tyfu sydd yn deillio o orseddau pŵer di-waith/ddiangen.
  • Cyflawnadwy o'r dylunio cychwynnol i gynhyrchu gweithredol yn gyflymach na phob ffurf arall o egni masnachol, ac yn leihau dibyniaeth y genedl ar gyflenwadau egni tramor mewn amseroedd o angen.
  • Mae storio egni yn caniatáu i bŵer gormodol a gynhyrchir gan ffermydd solar a gwynt gael ei storio a'iddefnyddio'n ddiweddarach pan fo angen.
  • Mae'n cefnogi nod Llywodraeth y Deyrnas Unedig i ddod yn gynhyrchydd annibynnol o egni glân, gwyrdd a domestig, ac i leihau ein dibyniaeth ar tanwyddau ffosil. Yn y pen draw, bydd hyn yn cael effaith bositif ar leihau prisiau egni i'r defnyddwyr terfynol.