DYLUNIAD
Mae pob safle wedi'i gynllunio i leihau'r perygl o dân a'i ledaeniad tra'n sicrhau mynediad addas i gerbydau brys. Bydd cynlluniau gosodiad manwl yn cael eu cynhyrchu yn unol â safonau dylunio cyfredol ac yn ystyried bylchau rhwng offer a gofynion cyflenwad dŵr
RHEOLAETH A CHANFOD
Bydd y cyfleuster batris yn cael ei fonitro o bell 24/7 i roi rhybudd ymlaen Ilaw am broblemau potensial. Bydd hefyd waith cynnal a chadw rheolaidd ar y safle ac arolygiadau rheolaeth i sicrhau gweithrediad esmwyth y safle. Bydd cynllun rheoli argyfwng yn ei le i ymateb yn effeithiol i unrhyw argyfwng.
DIFFODD A LLETHU
Os caiff anghysondebau eu canfod, bydd y systemau'n cael eu diffodd cyn i dân ddechrau. Mae gan unedau BESS unigol eu systemau llethu tân arbenigol eu hunain, a all gynnwys llethu aerosol, niwl dŵr neu systemau taenellwr.
CYNLLUNIAU A GWEITHDREFNAU
Bydd y cais cynllunio'n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr yn manylu y cynlluniau a'r gweithdrefnau diogelwch mewn perthynas â'r datblygiad.